SL(6)673 – Gorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025 (Cychwyn a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2025

Cefndir a diben

Mae Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025 (“Deddf 2025”) yn ceisio tynnu ynghyd a ffurfioli’r trefniadau gweithdrefnol ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth Cymru, a’r gofynion ar gyfer cyhoeddi Deddfau Senedd Cymru ac offerynnau statudol Cymreig, ac is-ddeddfwriaeth arall nas gwneir drwy offeryn statudol. Mae hefyd yn bwriadu gwella hygyrchedd cyfraith Cymru drwy ddiddymu, diwygio a datgymhwyso fel arall o ran Cymru ddarpariaethau a deddfiadau nad ydynt o ddefnyddioldeb ymarferol neu o fudd mwyach; a gwneud mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (“Deddf 2019”).

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adrannau 1, 3, 5, 6 ac 8 o Ddeddf 2025, ac Atodlen 3 iddi, i rym ar 1 Ionawr 2026.

Mae adran 1 o Ddeddf 2025 yn diwygio Deddf 2019 drwy fewnosod Rhan newydd 2A sy’n gwneud darpariaeth ynghylch offerynnau statudol Cymreig a gweithdrefnau’r Senedd ar gyfer is-ddeddfwriaeth Cymru.

Mae adran 3 o Ddeddf 2025 yn diwygio Deddf 2019 drwy fewnosod Rhan newydd 2B sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyhoeddi, cadw, rhifo a dosbarthu Deddfau Senedd Cymru, offerynnau statudol Cymreig ac is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru.

Mae adran 5 o Ddeddf 2025 yn diwygio Deddf 2019 drwy fewnosod adran newydd 42A sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol adolygu gweithrediad ac effaith Rhannau newydd 2A a 2B o Ddeddf 2019.

Mae adran 6 o Ddeddf 2025 yn diwygio adran 2 o Ddeddf 2019 fel bod rhaid i raglenni i wella hygyrchedd cyfraith Cymru gynnwys cynigion ar gyfer cywiro unrhyw wallau neu ddatrys unrhyw amwysedd yng nghyfraith Cymru.

Mae adran 8 o Ddeddf 2005, ac Atodlen 3 iddi, yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 2019.

Ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni at y Pwyllgor ar 6 Tachwedd 2025 i roi gwybod i’r Pwyllgor fod y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi gwneud y Gorchymyn hwn.

Y weithdrefn

Dim gweithdrefn.

Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn.

1.     Nodir bod y Gorchymyn yn dod ag adran 1 o Ddeddf 2025 i rym, sy'n mewnosod Rhan 2A newydd i Ddeddf 2019. Mae hyn yn disodli gweithdrefnau craffu presennol y Senedd ar gyfer offerynnau statudol Cymru gyda’r canlynol:

a)    mae’r Weithdrefn Gymeradwyo yn disodli’r weithdrefn ‘gadarnhaol ddrafft’ felly dim ond os caiff ei gymeradwyo drwy bleidlais yn y Senedd y bydd offeryn statudol yn dod yn gyfraith;

b)    mae’r Weithdrefn Gadarnhau yn disodli'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ sy'n golygu y bydd offeryn statudol yn dod yn gyfraith pan gaiff ei wneud, ond dim ond os caiff ei gadarnhau mewn pleidlais gan y Senedd o fewn cyfnod penodol o amser y bydd yn parhau mewn grym; ac

c)     mae'r Weithdrefn Annilysu yn disodli'r ‘weithdrefn negyddol’ lle mae'r offeryn statudol yn dod yn gyfraith pan gaiff ei wneud ond gall y Senedd ei annilysu hyd at 40 diwrnod ar ôl iddo gael ei osod.

Nid yw’r gweithdrefnau newydd yn berthnasol i is-ddeddfwriaeth a wnaed cyn 1 Ionawr 2026 neu a gynhwysir mewn offeryn statudol a osodwyd gerbron y Senedd ar ffurf ddrafft cyn y dyddiad hwnnw.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

12 Tachwedd 2025